Lleoliad:
Committee room 5 - Tŷ Hywel
and video conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mai 2025
Amser:
09.33 -
14.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/15091
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Andrew RT Davies AS (Cadeirydd) Hannah Blythyn AS Hefin David AS Samuel Kurtz AS Jenny Rathbone AS Siân Gwenllian AS |
|
Tystion: |
Andrew Chambers, Llywodraeth Cymru Rhys Evans, Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur Ellen Fay, Sustainable Soils Alliance Teleri Fielden, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Naomi Matthiessen, Llywodraeth Cymru Fraser Mcauley, CLA Abi Reader, National Farmers' Union (NFU) Cymru Andrew Tuddenham, Soil Association James Cooke, Llywodraeth Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Robert Donovan (Clerc) Nicole Haylor-Mott (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) Gareth Howells |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hannah Blythyn AS mewn perthynas ag eitemau 1, 2 a 3, a ymunodd â’r cyfarfod o eitem 4 ymlaen.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Luke Fletcher AS. Roedd Siân Gwenllian AS yn bresennol fel dirprwy ar gyfer eitemau 1 a 2.
1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Andrew RT Davies AS a Samuel Kurtz AS fuddiant.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Tuddenham (Cymdeithas y Pridd Cymru), Rhys Evans (Y Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur), ac Ellen Fay (Sustainable Soils Alliance).
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Abi Reader (NFU Cymru), Teleri Fielden (Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)), a Fraser McAuley (Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA)).
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i fynd ar drywydd sawl pwynt a godwyd yn ystod y sesiwn gyda’r Ysgrifennydd Cabinet mewn gohebiaeth ysgrifenedig.
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag eitem
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2,3 a 4.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion allweddol, a chytunodd i fwrw ati i ddrafftio’r adroddiad.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn cyngor cyfreithiol, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes ynghylch y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol.